Ble i fwyta yn Y Fenni dros yr Eisteddfod Genedlaethol

eisteddfod

Byddwch yn dod i’r Fenni am yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos yma? Croeso!
Dw i wedi byw yn Y Fenni am bymtheng mlynedd – a dyma rhai o’r lleoedd gorau i fwyta o gwmpas y dref:

The Hardwick, yn Hardwick ger Y Fenni
Mae’r cogydd Stephen Terry’n enwog am ddefnyddio mwyd lleol. Mae’r bwyd yr Hardwick yn syml ac yn flasus iawn. Rhaid i chi archebu bwrdd ‘na – mae’r Hardwick yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr a phobol leol.

The Angel, Stryd y Croes
Mae’r Angel yn enwog am fwyta gwych a the yn y prynhawn. Dewiswch o’r fwydlen a la carte, neu archebu bwrdd am de gyda brechdanau gwych a chacennau.

Marches Deli, Heol Nevill
Perffaith am brynu cigoedd a chawsai lleol, gwînau o Sir Fynwy, brechdanau, a photelau’r cwrw Iechyd Da.

Gurkha Corner, Stryd Nevill
Bwyd o Nepal ydy’r arbenigedd y bwyty yma. Trio’r ‘daal bhat’ (reis a chorbys) ac yr ‘achar’ (siytni).
Mae’r cogydd yn paratoi’r perlysiau a sbeisys yn forter carreg a phestl, fel sy’n draddodiadol yn Nepal Mae hwn yn gan roi blas unigryw i’r fwyd.

Fig Tree Espresso, Stryd Nevill
Coffi gwych, te, tartenni sawrus, a chacennau blasus.

Hoffi Coffi, Stryd Nevill
Caffi newydd sy’n gweini coffi, te, cacennau, a brechdanau.

The Trading Post, Stryd Nevill
Coffi gwych, te, brechdanau ffres, a chacennau.

Cwtch Café, Stryd y Croes
Coffi a the da, cacennau gwych, ac mae’r caffi yma’n enwog am grempogau.

Luigi’s, Stryd y Croes
Caffi traddodiadol Eidaleg sy’n gweini te, coffi, cwrw, gwin, a mwyd Cymraeg ac Eidaleg.

Boonta Too, Stryd y Croes
Bwyty Thai poblogaidd iawn gyda’r bobl Sir Fynwy ydy Boonta Too. Does dim trwydded alcohol am y bwyty yma – felly rhaid i chi ddod â chwrw neu gwîn.

For The Love Of Cake, Stryd Frogmore
Caffi anhygwyl sy’n gweini te, coffi, brechdanau, a chacennau a gwneud â llaw.

Lazy Days Café, Stryd Frogmore
Mae’r caffi’n drws nesaf i siop cigydd ac yn enwog am cigaoedd – yn frechdanau a chiniawau rhost.

Pizzorante, Stryd y Farchnad
Bwyty gwych am bitsa – poblogaidd iawn gyda’r bobl Y Fenni.
Ac ar y maes…

Edrychwch am y cwrw’r Eisteddfod Genedlaethol ar werth ar y maes o’r bragdy Mad Dog. Cwrw coch gyda’r blas o siocled ac sydd oren ydy Iechyd Da. Darllenwch mwy am Mad Dog ac yr Eisteddfod yma.

Digwyddiadau’r wythnos.